Mae yna amheuaeth a wnaeth S4C gytuno i doriad o £2 miliwn o'i grant eleni, er gwaetha datganiad clir gan Adran Ddiwylliant, Cyfryngau, Hamdden a Chwaraeon Llywodraeth San Steffan eu bod wedi gwneud hynny. Daw'r wybodaeth o ddogfennau gafodd eu rhyddhau o dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth. Mae'n amlwg o'r ohebiaeth i gadeirydd Awdurdod S4C John Walter Jones wrthod cais am doriadau fwy nag unwaith ar ôl derbyn cyngor bargyfreithiwr Mae'r dogfennau hefyd fel pe bae'n nhw'n awgrymu fod cyn brif weithredwr y sianel, Iona Jones, wedi bod yn trafod â swyddogion yr adran ar yr un pryd. Fe adawodd hi S4C yn...
↧