Cymraes a anwyd yn Y Barri fydd Prif Weinidog benywaidd etholedig cyntaf Awstralia. Pythefnos ers yr etholiadau yn y wlad mae Julia Gillard wedi cael cefnogaeth aelodau seneddol annibynnol sy'n golygu y gall barhau i fod yn Brif Weinidog. Fe fydd Ms Gillard felly yn arwain llywodraeth leiafrifol ar ôl i'w phlaid Lafur fethu ennill mwyafrif clir. Mae pobl wedi bod yn siarad ag yn trafod gwleidyddiaeth, y ffordd yr ydym yn cael ein llywodraethu a sut mae'r senedd yn gweithio Andy Bell, newyddiadurwr yn Awstralia Dyma'r tro cyntaf ers yr Ail Ryfel Byd i Awstralia gael...
↧