Mae ymgynghorydd arbennig yr Ysgrifennydd Tramor, William Hague, wedi ymddiswyddo oherwydd "honiadau celwyddog a maleisus" yn ei erbyn. Dywedodd Mr Hague fod sibrydion fod penodiad Christopher Myers wedi digwydd oherwydd perthynas amhriodol rhwng y ddau yn "gwbl ffug". Mewn datganiad, gwadodd hefyd fod ei briodas gyda'i wraig Ffion hefyd mewn trafferthion. Datgelodd eu bod wedi colli sawl plentyn yn y groth, a'u bod yn dal i alaru wedi i feichiogrwydd ddod i ben yn ystod yr haf....
↧